Cwrddom ni ar draeth Llanina i adnewyddu adduned y Sgowtiaid ac i gael brecwast ar y traeth. Yna, aethom ni ymlaen i'r goedwig ac i draeth Cei Bach er mwyn chwilio am bethau a pheintio cerrig ar thema codiad haul. Yn dilyn helfa drysor, aeth y plant adref yn flinedig ond yn hapus ar ol diwrnod hir.
Claire Dyer, Arweinydd Sgowtiaid Afanc